EXPERTISE
Issues I deal with include:
Anxiety, depression, trauma, personal development, addictions including substance dependency, sexuality, phobias, OCD, PTSD, abuse and sexual abuse, bullying, grief and bereavement, menopause and women's issues, identity issues, bi-polar disorder, ADD / ADHD, anger management, Autism Spectrum, cancer and illness, child related issues, chronic fatigue syndrome / ME, cultural issues, development coaching, disability, eating disorders, LGBTQ+ counselling, life coaching, loss, mood disorder, neurodiversity, obsessions, OCD, phobias, post-traumatic stress disorder, relationships, self worth, self-harm, sex-related issues, spirituality, stress, divorce.
​
I have extensive experience of counselling many types of issues with adults, students and young people of different backgrounds and ages. People come to counselling for differing reasons, from being able to cope better, to understanding more about themselves. My question is always 'Is this working for you?' as the positive outcomes need to be seen to be working in your life - as well as having a greater understanding.
Cwrs Iechyd Meddwl Da - Sgiliau ACT (Acceptance and Commitment Therapy)
Ar gyfer trechu pryder, iselder a codi hyder.
Mae'r Cwrs Iechyd Meddwl Da yn helpu pobl â pryder ac iselder i ddod yn rhydd o'u cylchoedd negyddol er mwyn gallu deffro yn y bore yn teimlo'n hyderus, beth bynnag fydd yn disgwyl. Swnio'n amhosib?
Dyma'r sgiliau mae Sefydliad Iechyd y Byd (World Health Organisation) yn eu hargymell ers 6 mlynedd rwan at bryder, iselder a trawma, oherwydd mae'r sgiliau hyd at 86% effeithiol.
Ar gyfer beth mae y Cwrs Iechyd Meddwl Da?
- i ddod allan o bryder ac iselder gan ddysgu am y ddau beth y byddwch yn sicr o'u gwneud sydd yn eich cadw yn y cylchoedd hynny
- i ddysgu sgiliau Iechyd Meddwl fydd yn eich galluogi i gynyddu'ch hyder a'ch gwytnwch personol
- dysgu sut i benderfynu a gweithredu efo pwrpas
Cynnwys y Cwrs?
Dyma fydd y chwech sesiwn o awr a hanner:
Sesiwn 1: Sgil 1: Camu nol
Sesiwn 2: Sgil 2: Derbyn efo chwilfrydedd
Sesiwn 3: Sgil 3: Hunan-drugaredd
Sesiwn 4: Sgil 4: Angerdd, personoliaeth a ffocws
Sesiwn 5: Gwerthoedd a ffocws
Sesiwn 6: Ymrywmiad a ffocws
Ewch i fy siannel Youtube 'Elise Gwilym Cwnsela' ar gyfer gweld video y Cyflwyniad: Cwrs Iechyd Meddwl Da: https://www.youtube.com/watch?v=zcGyj63vOc8
Ceir dau video cyhoeddus arall yna ichi hefyd.
Beth gaf i ar y Cwrs Iechyd Meddwl Da?
- 6 sesiwn efo Cwnselydd profiadol i'ch tywys yn hwyliog trwy y sgiliau
- Ymarferion bach yn gwneud y sgiliau yn rhwydd i ddeall ac i'w cofio. Byddwch yn gallu eu rhoi ar waith yn hyderus o ddiwrnod cyntaf y Cwrs.
- 20 munud o Ymarfer Serennog newydd bob wythnos wedi ei recordio ichi wrando arno yn eich hamser eich hun. Does dim 'gwaith caled' wrth wneud hyn, mond gwrando ac ymlynu'r sgiliau yn naturiol.
Y gost? Cysylltwch gyda fi i drafod y gost o.g.y.d..
Ebostiwch: elisegwilym57@gmail.com neu ddefnyddiwch y blwch cysylltu ar ddiwedd y wefan.​
​
Mae'r Cwrs yn addas i ddelio efo cyflyrau cronig tymor-hir ond dydy o ddim yn cymryd lle cwnsela proffesiynnol wyneb-yn-wyneb ar gyfer y problemau dwysaf. Dydy o ddim yn 'quick fix' ond bydd ymroi i ymarfer y sgriptiau byr y sgiliau yn gwneud eu gwaith dros amser gymharol fyr. Bydd yr Ymarfer Serennog fydd yn dod allan bob wythnos yn eich helpu efo hyn.
​​
Adolygiadau 2023 o'r Cwrs Iechyd Meddwl Da
''Mwynheais y cwrs, technegau a cysyniadau hynod ddefnyddiol, pethau y gallai ddefnyddio bob dydd. Meddyliais ei fod wedi'i gynllunio a'i strwythuro'n dda. Rwyt ti'n dda iawn am egluro, ac roedd yn wych sut wnest ti gyflwyno'r termau hefyd yn Saesneg i ddysgwyr fel fi…''
​
''Roeddwn i'n hoffi sut roedd y sgiliau yn cael eu defnyddio yn rheolaidd ac yn adeiladu ar eu gilydd trwy'r Cwrs e.e. hunan drugaredd - roeddwn i'n gweld y rhan honno'n dda iawn ac yn berthnasol iawn imi''​​
​
''Cwrs hyfryd. Diolch. Dw i wedi dysgu fy mod i'n saff ac mae hynny wedi gwneud y byd o wahaniaeth imi a sut ydw i'n teimlo''
​
''Dw i'n drist bod y Cwrs wedi dod i ben! Fy hoff Ymarfer Serennog fi ydy 'Yr Ardd' a dw i'n gallu defnyddio hon unrhywle''