
Amdanaf Fi
Mi wnes i raddio o Brifysgol Bangor gydag MSc. mewn Cwnsela efo gradd gyntaf uchel mewn Sgiliau Cwnsela. Yn ystod hyn bûm yn gweithio yng Ngwasanaeth Cwnsela Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol y GIG a Chanolfan Merched Gogledd Cymru (GogGC) yn y Rhyl, lle rwy’n dal i weithio. Hyfforddais gyda CRUSE mewn cwnsela profedigaeth a colled.
Cyn hyn bûm yn Therapydd Cerdd am 14 mlynedd fel rhan o dîm Seicoleg Glinigol y Canolfan Datblygiad Plant, Bangor, i hosbis TÅ· Gobaith, ac i Gyngor Gwynedd, Conwy a Môn mewn nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd gyda plant a pobl ifainc efo anableddau, anawsterau a niwroamrywiaeth o bob math. ​
​
Dyma'r ymchwil dw i wedi bod yn ei wneud i ddiweddaru fy ngwybodaeth a datblygu fy sgiliau:
2021: ar yr Msc mewn Cwnsela astudiais iselder a'i achosion. Gall tango neu hip hop, er enghraifft, wella iselder hyd at 35% - mae'n rhaid ichi fod yn y presennol er mwyn eu dawnsio.
2022: deall y gorffennol yn nhermau diogelwch, hunanwerth ac pwysigrwydd personol. Dangosodd y cwrs CAT (Therapi Dadansoddol Gwybyddol) a Model Waverley sut mae ein profiadau bywyd cynnar yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn trin ein hunain a pobl eraill. Gall profiadau negyddol achosi negeseuon niweidiol i chi'ch hun.
2023: - fe wnes i greu a cynnal y Cwrs ACT, i adolygiadau a canlyniadau gwych. Gweler y dudalen 'Arbenigedd/Cwrs ACT'
Os ydych chi eisiau darllen mwy am ACT fe allwch chi edrych ar yr erthygl hon yn Psychology Today: https://www.psychologytoday.com/gb/therapy-types/acceptance-and-commitment-therapy.
​
2024: cwblheais hyfforddiant fel Cwnselydd Goruchwylio gyda Dr Lisa De Rijk (achrededig gan UKCP) a byddaf yn gwbl gymwys yn 2025.
​
Os oes gennych chi mwy o gwestiynau am sut dw i'n gweithio, plis cysylltwch. Eich sesiynnau chi ydy'r sesiynau hyn a dach chi'n rhydd i drafod beth bynnag dach chi angen.
Hyfforddiant/Cyhoeddiadau
2024: Diploma mewn Goruchwylio Cwnselwyr gyda Dr Lisa De Rijk, (UKCP) - o dan hyfforddiant
Gwarchod plant a pobl ifainc (Lefel 1, 2 a 3)
Rheoli bod yn flin/grac (efo PESI - 2 ddydd)
Cwrs Dibyniaeth Porn (Ross Hoskins)
2023-24: Cynnal cyrsiau ACT i fyfyrwyr MSc Cwnsela, Prifysgol Bangor, a GISDA Caernarfon
2022: MSc mewn Cwnsela, Prifysgol Bangor
​
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol RASASC Gogledd Cymru 8.11.22
​
ACAT: Cyflwyniad Deuddydd i Therapi Dadansoddol Gwybyddol ​
​
2022: Gweithdy Hyfforddi Arddulliau Dysgu GIG
2022: Gweithdai GIG ar ymwybyddiaeth ofalgar, therapi cerdd, ioga, hunanofal
2021: Hyfforddiant Trawma GIG/NHS
Hyfforddiant Cwnsela ar Gam-drin yng Nghanolfan Merched Gogledd Cymru, y Rhyl
2021: Gweithdy Hyfforddiant Trawma, Canolfan Merched Gogledd Cymru
2021: Cwrs Meddwlgarwch 6 wythnos - Gwasanaethau Lles Auctus, Llandudno
2021: Cwrs Hyfforddiant Therapi 12 awr ‘Sut i Weithio o bell’ - MSc Prifysgol Bangor
2021: hyfforddiant 5 mis gyda CRUSE gan gynnwys ‘Hyfforddiant Cymorth Profedigaeth: Gweminar Trawma, Ymwybyddiaeth a Hunanofal’; ‘Gweithio o bell ar Zoom/ffôn’; ‘Gweithio gyda Hunanladdiad’
2021: ‘Ymarfer y tu hwnt i’r Pandemig - Anghysbell ac yn bersonol - ystyried dull cyfunol o ddarparu therapi’ – Cymdeithas Cwnselwyr a Seicotherapyddion Prydain
2020: Gweithdy Hyfforddi 'Gwydnwch Emosiynol' gan Mary Bannon
2004-2018: Therapydd Cerdd GIG i Ogledd Cymru ac i Hosbis TÅ· Gobaith
1988: Tystysgrif Dysgu Uwchradd, TAR
1987: Gradd B.Mus Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor
​
CYHOEDDI -
Pennod ar y cyd mewn llyfr:
Wimpory, Dawn & Gwilym, Elise (2019). Therapi Rhyngweithio Cerddorol (MIT) ar gyfer Plant â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig (ASC): Rhesymeg Sylfaenol, Ymarfer Clinigol a Thystiolaeth Ymchwil. Yn Dunn H., Coombes E., Maclean E., Mottram H., a Nugent J., (Gol.) mewn 'Therapi Cerdd ac Awtistiaeth Ar Draws Oes'. Cyhoeddwyr Jessica Kings
​
Gallwch weld fy nghyflwyniad Meistr 'Dawnsio eich ffordd allan o Iselder: Ymyriadau ar gyfer Iselder Oedolion' ar Youtube: https://www.youtube.com/watch?v=U4lBJPmjomQ&t=3s
