top of page
Ardduliau
Ballroom Dancing Club

Adra - beth ydw i'n ei gynnig?

 

 

 

 

 

 

 

 

'Diolch eto am eich holl gymorth a chefnogaeth eleni. Rydych chi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr...'' (gweler 'Adolygiadau')

​

Elise ydw i, Cwnselydd a Seicotherapydd integredig, profiadol gydag MSc mewn Cwnsela (Prifysgol Bangor), a Therapydd blaenorol gyda'r GIG a ThÅ· Gobaith (Hosbis Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru). Rwy'n gweithio gyda plant, oedolion o bob oed, niwroamrywiaeth ac efo cyplau.

​

Rwy'n aelod o Gymdeithas Cwnselwyr a Seicotherapyddion Prydain (BACP) ac yn cadw at eu Fframwaith Moesegol. Mae yswiriant indemniad cyhoeddus proffesiynol gen i, DBS uwch, rwy'n cael goruchwyliaeth reolaidd, gadarn, ac yn mynychu cyrsiau a gweithgareddau rheolaidd (DPP) i sicrhau fy mod yn cadw fy holl sgiliau a gwybodaeth yn gyfredol. Rwy’n dilyn holl argymhellion GDPR cyfredol gan wneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n ddiogel gan wybod bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin a’i storio’n gywir. Rwy'n gweithio'n bersonol o Gaernarfon, Gogledd Cymru ac yn gwbl gymwys i weithio ar-lein.

​

Mae gen i sgiliau unigryw gyda lefel helaeth o brofiad mewn trin Pryder, PTSD, OCD, Anhwylderau Hwyliau, Anhwylderau Personoliaeth, Anhwylderau Panig, Trawma, Cam-drin Rhywiol a Materion Caethiwed. Rwy’n gweithio gyda chleientiaid sy’n cyflwyno anawsterau gan gynnwys hunan-barch isel, diffyg hyder, straen, iselder, gorbryder, pyliau o banig, hunan-niweidio yn ogystal â problemau colled, brad a perthynas.

​

Mewn man preifat, anfeirniadol a diogel cewch eich clywed, eich derbyn a'ch gwerthfawrogi. Yn ystod ein hamser gyda'n gilydd, byddaf yn ceisio gwrando arnoch yn ddwfn ac adlewyrchu'n ôl atoch y cwestiynau a'r atebion yr ydych yn eu llunio am eich bywyd ac am eich anawsterau fel y gallwch weld eich hun mewn ffyrdd newydd a mwy cynnil. Rwy'n ceisio'ch helpu chi i oleuo patrymau ymateb a meddwl sydd efallai wedi'u cuddio i chi.

​

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) bellach yn argymell ACT (Therapi Derbyn ac Ymrwymiad) ac nid CBT ar gyfer straen, pryder, iselder a thrawma. Un o 6 sgiliau ACT ydy meddwlgarwch (mindfulness). Rwy'n gweld yn barhaus sut mae fy nghleientiaid, y mae rhai ohonynt wedi bod yn cael trafferth ers blynyddoedd gyda pryder, ffobiâu iechyd a chymdeithasol, OCD's ac iselder yn elwa'n aruthrol o ACT a'r dulliau cyfoes a cyfredol fel fy un i.

 

Os ydych chi'n meddwl, trwy ddysgu am fy ngwaith o'r wefan hon, efallai mai fi yw'r therapydd iawn i chi, edrychaf ymlaen at glywed gennych.

 

FFIOEDD: Mae sesiynau unigol yn £40 ac ar gyfer cwnsela cyplau, £60.

BACP Logo - 397296.png
IMG-20230801-WA0004_edited_edited.jpg
Contact
Butterfly

Cysylltwch

 Ar ebost:     elisegwilym57@gmail.com

 Neu trwy y blwch isod:

Diolch yn fawr

bottom of page