top of page

ARBENIGEDD

Mae'r materion yr wyf yn delio â nhw yn cynnwys:

  • Pryder,

  • iselder,

  • trawma,

  • dibyniaeth ar sylweddau,

  • rhywioldeb,

  • ffobiâu,

  • OCD,

  • PTSD,

  • cam-drin a cham-drin rhywiol,

  • bwlio,

  • galar a phrofedigaeth,

  • menopos a materion menywod,

  • materion hunaniaeth,

  • ADD / ADHD,

  • rheoli dicter,

  • y Sbectrwm Awtistiaeth,

  • canser a salwch,

  • materion yn ymwneud â phlant,

  • syndrom blinder cronig / M.E.,

  • materion diwylliannol,

  • hyfforddi datblygiad personol,

  • anhwylderau bwyta,

  • y gymuned LHDT+,

  • hyfforddi sut i fyw bywyd,

  • colled a galar,

  • anhwylder hwyliau,

  • niwroamrywiaeth,

  • anhwylder straen wedi trawma,

  • perthynas a problemau,

  • hunan-werth,

  • hunan-niweidio,

  • materion yn ymwneud â rhyw,

  • ysbrydolrwydd,

  • ysgariad.

​

Hefyd mae gen i brofiad helaeth mewn:

  • pryder a stres

  • trawma

  • awtistiaeth a niwroamrywiaeth - gydag oedolion, plant a pobl ifanc o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol. 

  • defnyddio gwahanol arddulliau mewn ffordd integredig

​

Cwrs ACT (Acceptance and Commitment Therapy)

      'Ar gyfer trechu pryder, iselder a codi hyder'
       - Cwrs y byddaf yn ei gynnal i sefydliadau a grwpiau, yn bersonol neu ar-lein


Ewch i fy siannel Youtube 'Elise Gwilym Cwnsela' ar gyfer gweld video y Cyflwyniad: Cwrs Iechyd Meddwl Da (ACT): 

https://www.youtube.com/watch?v=zcGyj63vOc8
Ceir dau video cyhoeddus arall yna ichi hefyd.
Mae'r Cwrs Iechyd Meddwl Da (ACT) yn helpu pobl â pryder ac iselder i ddod yn rhydd o'u cylchoedd negyddol er mwyn gallu deffro yn y bore yn teimlo'n hyderus, beth bynnag fydd yn eu disgwyl. Swnio'n amhosib? 

Dyma'r sgiliau mae Sefydliad Iechyd y Byd (World Health Organisation) yn eu hargymell ers 6 mlynedd rwan at bryder, iselder a trawma, oherwydd mae'r sgiliau hyd at 86% effeithiol.

Ar gyfer beth mae y Cwrs ACT? 

- i ddod allan o bryder ac iselder gan ddysgu am y ddau beth y byddwch yn sicr o'u gwneud sydd yn eich cadw yn y cylchoedd hynny
- i ddysgu sgiliau Iechyd Meddwl fydd yn eich galluogi i gynyddu'ch hyder a'ch gwytnwch personol
- dysgu sut i benderfynu a gweithredu efo pwrpas 

Cynnwys y Cwrs ACT?  

Sesiwn 1: Sgil 1: Camu nol 
Sesiwn 2: Sgil 2: Derbyn 
Sesiwn 3: Sgil 3: Hunan-drugaredd 
Sesiwn 4: Sgil 4: Angerdd, personoliaeth a meddwlgarwch
Sesiwn 5: Gwerthoedd 
Sesiwn 6: Ymrwymo

Beth gaf i ar y Cwrs ACT?

​

- un neu ddau ddiwrnod o hyfforddiant - neu 6 wythnos am awr yr wythnos - o dan arweiniad cwnselydd profiadol a gwybodus

- Ymarferion bach yn gwneud y sgiliau yn rhwydd i ddeall ac i'w cofio. Byddwch yn gallu eu rhoi ar waith yn hyderus o'r diwrnod cyntaf ymlaen 

​

- 10 munud o Ymarfer Serennog newydd bob wythnos wedi ei recordio a'i anfon atoch ichi wrando arno. Does dim 'gwaith caled' wrth wneud hyn, 'mond gwrando ac ymlynu'r sgiliau yn naturiol.  

Mae'r Cwrs yn addas i ddelio efo cyflyrau cronig tymor-hir ond dydy o ddim yn cymryd lle cwnsela proffesiynnol. Dydy o ddim yn 'quick fix' ond bydd ymroi i ymarfer sgriptiau byr y sgiliau yn gwneud eu gwaith dros amser gymharol fyr. Bydd y 6 Ymarfer Serennog hefyd yn eich helpu efo hyn.

 

Y gost? Cysylltwch gyda fi i drafod y gost o.g.y.d.. 

Ebostiwch: elisegwilym@gmail.com neu ddefnyddiwch y blwch cysylltu ar ddiwedd y wefan.​

​​

Adolygiadau 2023 o'r Cwrs Iechyd Meddwl Da

​

GISDA, Caernarfon: Diolch yn fawr iawn I chi am y cwrs ac yr holl ddeunyddiau a gwybodaeth hefyd. Yr ICAN Connectors wedi bod yn defnyddio ACT mewn sesiynau ac yn cael adborth bositif.

​

Sian Elen Tomos (Prif Weithredwr GISDA): Diolch o galon i chi Elise am ddarparu a pharatoi y cwrs ar ein cyfer, diolch hefyd am rannu’r adborth. Pawb i weld wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer. Edrych ymlaen at weithio efo chi eto'

​

Byddwn wrth fy modd unrhyw recordiad sydd gennych ar gael os gwelwch yn dda. Rwyf eisoes yn ei chael yn arf defnyddiol iawn. (Myfyriwr Cwrs MSc mewn Cwnsela 2023, Prifysgol Bangor)

 

Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r cwrs a'r ffordd y gwnaethoch chi ei gyfarwyddo. Rwy'n meddwl y byddai'n eich gwneud yn hapus i wybod fy mod yn parhau i gymhwyso'r egwyddorion hyn i mi fy hun yn rheolaidd a hyd yn oed wedi rhannu gyda fy anwyliaid, ar wahân i'm cleientiaid. (Myfyriwr Cwrs MSc mewn Cwnsela 2023, Prifysgol Bangor)

​

''Mwynheais y cwrs, technegau a cysyniadau hynod ddefnyddiol, pethau y gallai ddefnyddio bob dydd. Meddyliais ei fod wedi'i gynllunio a'i strwythuro'n dda. Rwyt ti'n dda iawn am egluro, ac roedd yn wych sut wnest ti gyflwyno'r termau hefyd yn Saesneg i ddysgwyr fel fi…''

​

''Roeddwn i'n hoffi sut roedd y sgiliau yn cael eu defnyddio yn rheolaidd ac yn adeiladu ar eu gilydd trwy'r Cwrs e.e. hunan drugaredd - roeddwn i'n gweld y rhan honno'n dda iawn ac yn berthnasol iawn imi''​​ (J.S.)

​

''Cwrs hyfryd. Diolch. Dw i wedi dysgu fy mod i'n saff ac mae hynny wedi gwneud y byd o wahaniaeth imi a sut ydw i'n teimlo''

(L.G.)

''Dw i'n drist bod y Cwrs wedi dod i ben! Fy hoff Ymarfer Serennog fi ydy 'Yr Ardd' a dw i'n gallu defnyddio hon unrhywle pan dw i angen stopio stres''

bottom of page